Gwirfoddoli

Hafan > Yr Hen Lys > Gwirfoddoli

Galw am Wirfoddolwyr

A allwch chi ymrwymo i helpu yn yr Hen Lys?

Rydym ar agor o fis Ebrill tan mis Hydref, ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener, i’r cyhoedd weld yr adeilad hanesyddol a’r arddangosfeydd.

Rydym yn bwriadu agor ar foreau Sadwrn hefyd yn y dyfodol agos.  

Rydym yn chwilio am bobl hyderus i sgwrsio â’n hymwelwyr. Mae hyfforddiant ar gael.

Mae gwirfoddolwyr yn tueddu i ddod i mewn rhwng naill ai 10.30 ac 1.00 neu 1.00 a 3.30.

Mae digon o de a choffi ar gael, a bisgedi weithiau hefyd!

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, ffoniwch ni ar 01824 703797