Hanes yr Adeilad

Hafan > Yr Hen Lys > Hanes yr Adeilad

tu allan or hen llys

HANES CRYNO YR HEN LYS 

Mae Hen Lys Rhuthun yn arwydd o adferiad arglwyddiaeth Rhuthun yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr. Torrwyd coed i lawr i’w adeiladu yn 1421 a chredir bod yr adeilad gwreiddiol yn cynnwys neuadd agored ganolog i’r llys, wedi’i gosod rhwng cilfachau deulawr ar y pen.

NEWIDIADAU YN YSTOD OES Y TUDURIAID A’R STIWARTIAID

Ar ôl 1507, cafodd y llawr gwaelod ei feddiannu gan siopau ac ychwanegwyd tri estyniad bach i’r ochr ddeheuol, un ohonynt o leiaf, â ffowndri. O ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, ei enw mwyaf cyson oedd y ‘Pendist’. Goroesodd y llys nes y cafodd ei ddisodli gan Neuadd y Sir newydd yn 1663. Y ‘Pendist’ oedd lleoliad dienyddiad y Tad (Sant bellach) Charles Meehan, Ffransisiad Gwyddelig, yn 1679. 

SIOPAU SIORAIDD

Datblygodd siop Sioraidd fwyaf Rhuthun yn y ‘Pendist’. Fe’i gelwid yn ‘Hen Neuadd’, a busnes groser a nwyddau haearn oedd yn yr adeilad yn bennaf o 1827 o leiaf. Roedd hwn yn cael ei redeg gan yr un teulu o 1850 tan 1926, a gelwid eu busnes yn Siop Pendre am y rhan fwyaf o’r amser hwn. Arweiniodd methdaliad y perchnogion, Ystâd y Castell, at werthiant y Llys ym 1913.

ADFERIAD

Prynodd Banc y National Provincial yr adeilad ym 1923 ac erbyn 1926 aethpwyd ymlaen â’r gwaith atgyweirio, a oedd wir angen ei wneud. Dymchwelwyd yr estyniadau cefn. Caed gwared ar ganrifoedd o waith addasu i ddarparu gofod masnachol. Adferodd y gwaith atgyweirio’r cysyniad gwreiddiol o neuadd agored, ac mae’r Hen Lys wedi dod yn un o’r adeiladau sy’n cael tynnu ei lun fwyaf yng Nghymru.