Dinesydd y Flwyddyn

Hafan > Cyngor Tref Rhuthun > Dinesydd y Flwyddyn

Nos Fawrth 10fed Mehefin, cynhaliodd Cyngor Tref Rhuthun ei noson wobrwyo flynyddol i ddinasyddion y dref am 2024.

Y Cynghorydd Jabez Redfern Oakes, Maer 2024-25 oedd yn cyflwyno’r gwobrau, a’r Cynghorydd Peter Daniels, y Maer presennol, oedd yn llywio’r noson.

Cyflwynwyd tair gwobr.

Dyfarnwyd gwobr Dinesydd y Flwyddyn i Bethan Hughes, am ei chyfraniad i fywyd diwylliannol y dref.

Dyfarnwyd gwobr Grŵp Cymunedol y Flwyddyn i’r Côr Cymunedol Cyfeillgar i Ddementia, dan arweiniad eu cyfarwyddwr cerdd, Alys Winstanley. Mae gan yr holl aelodau brofiad byw o ddementia neu o ofalu. Maen nhw’n perfformio’n rheolaidd mewn digwyddiadau yn Rhuthun a’r cylch.

Dyfarnwyd gwobr Person Ifanc y Flwyddyn i Ffion Jones, Rhingyll yng Nghadetiaid Awyr Rhuthun, sy’n gwneud llawer iawn o waith gwirfoddol fel rhan o’r rôl honno, ac yn y gymuned yn ehangach.

Ar ôl cyflwyno’r gwobrau, cafwyd perfformiad yn Gymraeg ac yn Saesneg gan y côr, gyda fersiwn hynod deimladwy o Piano Man gan Billy Joel.

Dywedodd y Cynghorydd Redfern Oakes  “Cafwyd nifer neilltuol o uchel o enwebiadau eleni ac roedd cystadleuaeth frwd ym mhob un o’r categorïau. Roedd yn bleser gen i gyflwyno’r gwobrau hyn i’r tri enillydd haeddiannol”.

Cafodd pob enillydd dystysgrif wedi’i harwyddo a rhodd o £100  i elusen neu achos da o’u dewis.  

Cafwyd noson ddymunol dros ben.